Cofnodion Drafft Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ac Undeb PCS a gynhaliwyd ddydd Mercher, 11 Rhagfyr 2013 yn Ystafell Giniawa 1, Tŷ Hywel.

Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd); Mike Hedges AC; Bethan Jenkins AC, Alun Ffred Jones AC; Joyce Watson AC; Annabelle Harle (yn cynrychioli Mark Drakeford AC); Margaret Davies (PCS); Marianne Owens (PCS); Caroline Richards (PCS); Darren Williams (PCS).

Ymddiheuriadau: Mick Antoniw AC, Paul Davies AC.

Oherwydd bod yr Aelodau ar gael ar adegau amrywiol, cytunwyd i gynnal y cyfarfod ar ffurf sesiwn friffio alw heibio, gan ganolbwyntio’n bennaf ar faterion sy’n ymwneud â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Dechreuodd y cyfarfod am 17.30, pan gyrhaeddodd yr aelodau o’r Grŵp a’r cynrychiolwyr cyntaf.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – y bygythiad o golli swyddi a chau swyddfeydd

Mynegodd cynrychiolwyr PCS eu pryderon ynghylch effaith rhai o benderfyniadau diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar Gymru:

·         Cynllun Ymadael Gwirfoddol, a gyhoeddwyd ar 20 Tachwedd, wedi’i dargedu at staff mewn swyddfeydd penodol y mae eu dyfodol hirdymor yn ansicr, gan gynnwys Caerfyrddin (86 aelod o staff); Bae Colwyn (81 aelod o staff); Merthyr Tudful (84 aelod o staff); a Doc Penfro (8 aelod o staff).

·         Bwriad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd, i ddod â chontractau tua 3000 o gyflogeion Contract Tymor Penodol i ben, y mae 300 ohonynt yn gweithio yn swyddfa Caerdydd (Llanisien), yn y ganolfan gyswllt ac yn ymdrin â phost.

·         Bwriad yr adran i gau pob un o’i 281 o Ganolfannau Ymholiadau wyneb yn wyneb – gan gynnwys 20 yng Nghymru – erbyn diwedd 2014, yn amodol ar gwblhau rhaglen beilot yn llwyddiannus; byddai hyn yn golygu mai dim ond dros y ffôn neu’r rhyngrwyd y gallai aelodau o’r cyhoedd gysylltu â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Gyda’i gilydd, byddai’r cyhoeddiadau hyn yn arwain at golli tua 600 o swyddi yng Nghymru, gan effeithio’n ddifrifol ar gymunedau, tanseilio gwaith gwerthfawr ar gydymffurfiaeth trethi a rhwystro ymdrechion polisïau’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twf ac adfywio’r economi ledled Cymru. Rhoddodd yr Undeb wybod hefyd na chafwyd ymgynghoriad ffurfiol ynghylch cau’r swyddfeydd ac ni chynhaliwyd asesiad effaith ar gydraddoldeb.

Roedd yr Aelodau’n rhannu pryderon yr Undeb a gwnaethant gytuno i fynd ar drywydd y materion hyn.

Camau i’w cymryd

·         Julie Morgan/Mike Hedges i gyflwyno datganiad barn (PCS i awgrymu testun i’w gynnwys)

·         Pawb i lofnodi a hyrwyddo’r e-ddeiseb yn erbyn cau canolfannau ymholiadau: http://epetitions.direct.gov.uk/petitions/47400

·         Aelodau’r Cynulliad i ysgrifennu at David Gauke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys (PCS i ddarparu crynodeb byr o’r materion)

·         Aelodau’r Cynulliad i godi’r rhain yn y Siambr

 

Materion eraill

Adolygiad o’r DVLA: Rhoddodd PCS wybod fod adolygiad eang o waith yr asiantaeth ar waith a bod yr undeb yn pryderu y gallai hyn arwain at breifateiddio neu golli swyddi. Roedd y gangen leol eisoes wedi ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal ag Aelodau Seneddol a Chynghorwyr, i fynegi ei phryderon. Cytunwyd i barhau i wylio’r mater hwn.

Swyddi maes awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan - preifateiddio: Rhoddodd PCS wybod fod Llywodraeth Cymru, sy’n berchen ar y maes awyr, wedi rhoi gwybod i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n gyfrifol am staffio, ei bod am iddo fod yn weithredol am saith diwrnod yr wythnos yn hytrach na phum diwrnod, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae hyn wedi arwain y Weinyddiaeth Amddiffyn i drefnu i wneud rhywfaint o’r gwaith yn allanol, gan nad oes digon o staff mewnol ganddi. Ym marn yr undeb, dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn gyflogi staff ychwnaegol, os oes angen, er mwyn gwneud y gwaith yn fewnol. Cytunwyd i ysgrifennu at Jane Hutt, yr Aelod Cynulliad lleol, gan ofyn iddi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru.

Canolfan Gwasanaethau a Rennir y Weinyddiaeth Gyfiawnder - preifateiddio posibl: Roedd rheolwyr Canolfan Gwasanaethau a Rennir y Weinyddiaeth Gyfiawnder yng Nghasnewydd newydd gyhoeddi eu bod yn ystyried trosglwyddo gwaith y ganolfan i un o’r ddwy Ganolfan Gwasanaethau a Rennir breifat, a reolir gan Arvato a Steria. Roedd PCS yn pryderu y gallai hyn arwain at golli swyddi, newidiadau andwyol i gyflogau ac amodau, a threfnu i wneud gwaith yn allanol. Cytunwyd i drafod hyn gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a gofyn i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadau er mwyn cadw’r gwaith yng Nghasnewydd ac yn y sector cyhoeddus.

Daeth y cyfarfod i ben am 19.00.